Mae Wes Streeting wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Iechyd yn dilyn cyfnod yn y swydd a achosodd niwed sylweddol i hawliau, urddas, a lles pobl LGBTI+ ledled Cymru.
Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, gwelsom symudiadau dro ar ôl tro oddi wrth ofal iechyd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n canolbwyntio ar y claf — yn enwedig mewn meysydd sy’n effeithio ar bobl drawsryweddol a di-ddeuaidd. Ymddangosai fod penderfyniadau a ddylai fod wedi’u harwain gan arbenigedd clinigol a phrofiad byw yn hytrach yn blaenoriaethu safbwyntiau gwleidyddol, gan gyfrannu at ofn, ansicrwydd, a llai o fynediad at wasanaethau hanfodol i rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.
Felly rydym yn croesawu ei ymddiswyddiad. Rhaid i arweinyddiaeth ym maes iechyd fod wedi’i gwreiddio mewn tosturi, uniondeb gwyddonol, ac ymrwymiad i ofal teg i bawb. Ni ddylai rhywun sydd wedi dangos gwrthwynebiad i ddulliau sefydledig sy’n seiliedig ar dystiolaeth fod yn gyfrifol am lunio polisi iechyd cyhoeddus.
Mae hefyd yn glir fod gan Wes Streeting uchelgeisiau ar gyfer swydd uwch. O ystyried ei hanes, rydym yn bryderus iawn ynghylch beth allai hyn ei olygu i ddyfodol hawliau LGBTI+ yn ehangach. Mae cynnydd mewn cydraddoldeb yn anodd ei ennill ac mae’n rhaid ei ddiogelu, nid ei danseilio.
Rydym yn annog y Blaid Lafur, a phawb sy’n ymwneud â’i phenderfyniadau arweinyddiaeth, i ystyried yn ofalus effaith dyrchafu unigolion y gallai eu safbwyntiau arwain at wanhau amddiffyniadau hanfodol. Ni ddylid trin hawliau, diogelwch ac urddas pobl LGBTI+ fel rhywbeth trafodadwy.
Byddwn yn parhau i sefyll yn gadarn dros ofal iechyd cynhwysol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac am ddyfodol lle gall pob unigolyn — beth bynnag fo’i hunaniaeth — gael mynediad at y gofal a’r parch y maent yn ei haeddu.
